Blwyddyn newydd dda hwyr i bawb a gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau’r ŵyl.
Mae’n ôl i’r drefn arferol rŵan i’r Cyngor ac i ni ei swyddogion. Rydw i’n siŵr y bydd 2019 yn flwyddyn o heriau a phosibiliadau; yn y blog hwn rydw i am geisio rhannu fy meddyliau amdanynt, a sut rydym yn paratoi ar eu cyfer.